Mae bwriad i gyflwyno argymhellion terfynol y comisiwn i’r pleidiau gwleidyddol i gyd er gwybodaeth i lywodraeth nesaf Cymru. Bydd yr argymhellion yn dylanwadu ar y drafodaeth am drefn cynghorau lleol y wlad, hefyd.
Mae’r comisiwn annibynnol wedi’i sefydlu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), sy’n cynrychioli cynghorau lleol Cymru, a Sefydliad Breiniol Arian a Chyfrifeg y Wlad (CIPFA), corff proffesiynol arbenigwyr materion ariannol y sector cyhoeddus.
Bydd y comisiwn yn ystyried sut y gallai gwell trefn ariannol ym myd llywodraeth leol helpu i ddatrys y prif anawsterau economaidd a chymdeithasol sy’n wynebu’r wlad ar adeg pan fydd llai a llai o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus lleol.
Ynglŷn â CIPFA
CIPFA yw’r unig gorff proffesiynol ym maes cyfrifeg ledled y byd sy’n ymwneud yn benodol â materion ariannol gwladol.
CIPFA, Sefydliad Breiniol Arian a Chyfrifeg y Wlad, yw’r corff proffesiynol i bobl sy’n ymwneud â materion ariannol gwladol. Mae gyda ni 14,000 o aelodau sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus, asiantaethau archwilio gwladol, cwmnïau cyfrifeg o bwys a chyrff eraill lle mae angen rheoli arian gwladol yn dda.
Cymwysterau CIPFA yw man cychwyn gyrfa ym maes arian gwladol. Ar ben hynny, rydyn ni’n hybu rhagoriaeth yn y gwasanaethau cyhoeddus gan ddefnyddio’n profiad a’n craffter i gynnig cynghorion eglur a gwasanaethau ymarferol.
Mae CIPFA yn flaengar ledled y byd ynglŷn â materion ariannol gwladol trwy hybu trefniadau rheoli a llywodraethu ariannol cadarn.
Ynglŷn ag WLGA
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hybu democratiaeth leol yng Nghymru. Mae’n cynrychioli 22 awdurdod lleol y wlad, ac mae awdurdodau’r tri gwasanaeth tân ac achub a’r tri pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.
Prif ddibenion WLGA yw hybu gwell llywodraeth leol a helpu awdurdodau i bennu polisïau a blaenoriaethau fydd yn gwella gwasanaethau cyhoeddus a democratiaeth.
Dolenni
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Swyddfa Archwilio Cymru – Cadernid Ariannol Cynghorau Cymru
Rhagolygon Sefydliadau’r Astudiaethau Ariannol hyd 2025-26 ar gyfer cyllidebau Llywodraeth Cymru
Comisiwn Diwygio Trethi Lleol yr Alban